Mae’r safle yn agor ar 8 Tachwedd 2022 i groesawu gwesteion yn ôl am ychydig o hwyl yr ŵyl!
Dim ond ar ddiwrnod Nadolig yr ydym ar gau. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am amseroedd agor gan y gallai’r rhain newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl / tywydd garw.
Na allwch yn anffodus, dim ond ar y safle y mae modd Archebu tocynnau bwyd, diod a reidiau. Mae Archebu tocyn ymlaen llaw er mwyn sglefrio iâ.
Nac oes! Nid oes ffi mynediad, mae am ddim i fynd i mewn, dim ond ar gyfer yr atyniadau o’ch dewis y mae’n rhaid i chi dau ar eu cyfer.
Yn anffodus, unwaith y mae tocynnau’r sesiwn wedi’u gwerthu allan, nid oes gennym unrhyw docynnau wedi’u cadw ond mae’n bosibl y bydd tocynnau yn dod ar gael os ydynt yn cael eu dychwelyd. Nid oes gennym restr aros ar gyfer y sesiynau sydd wedi gwerthu allan, felly rydym eich cynghori i edrych ar y wefan yn aml.
Mae’r reidiau yn costio £1.00 yr un a gellir eu Archebu o’r swyddfa docynnau ar y safle. Bydd y swyddfa docynnau yn cau 15 munud cyn amser cau’r safle bob nos.
Nid ydym yn caniatáu cŵn ar safle’r digwyddiad. Caniateir cŵn tywys ac mae powlen ddŵr ar gael ger y bar.
Sylwch y gall Gŵyl Gaeaf y Glannau Abertawe fod yn brysur ac yn swnllyd iawn felly efallai na fydd yn addas i gŵn.
Oes! Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac rydym am i bawb deimlo’n ddiogel tra’u bod yn y digwyddiad. Weithiau, gall ein swyddogion diogelwch archwilio bagiau ac mae cyfyngiadau ar ba eitemau a ganiateir gennym ar y safle. Rydym yn gofyn i bob un o’n hymwelwyr barhau i fod yn wyliadwrus ac i beidio â gadael bagiau neu eiddo heb neb i ofalu amdanynt.
Nid ydym yn caniatáu’r eitemau canlynol ar safle’r digwyddiad –
- Cyllyll
- Tân gwyllt
- Canisters Mwg
- Cyrn Awyr
- Ffaglau
- Arfau
- Eitemau Peryglus
- Laserau
- Poteli/llestri gwydr/caniau
- Polion
- Dronau
- Unrhyw eitem y gellir ei ddefnyddio neu ei weld fel arf a all beryglu diogelwch y cyhoedd
- Poteli diod/hylif wedi’u hagor
Ni fydd glaw yn rhoi stop arnom! Mae Gŵyl Gaeaf y Glannau Abertawe yn ddigwyddiad awyr agored felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n gynnes. Mae mannau dan orchudd a mannau eistedd dan do ar gael ac rydym yn croesawu pawb i ddefnyddio’r rhain.
Er mwyn sglefrio iâ, er bod y prif lawr sglefrio o dan do fel o’r blaen, mae’r ardal cerdded ar iâ yn yr awyr agored felly dewch â dillad addas os hoffech gerdded ar iâ (efallai y byddwch hefyd am ddod â phâr sbâr o sannau i’w gwisgo ar ôl gorffen sglefrio).
Ni fydd y llawr sglefrio iâ na’r ardal cerdded ar iâ yn cau os yw’n glawio, ond gall gwesteion ddewis aros ar y prif lawr sglefrio i osgoi’r gwaethaf o’r tywydd gwael.
Os bydd tywydd garw eithafol (gwyntoedd cryfion ac ati) efallai y bydd angen i ni gau’r safle ar fyr rybudd – ble bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn hysbysebu hyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ond byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i ni gau ar fyr rybudd os bydd angen gwneud hynny am resymau diogelwch.
Bydd cymorth cyntaf ar gael drwy gydol y digwyddiad, ewch at aelod o staff os oes angen sylw meddygol arnoch.
Rydym yn gweithredu polisi her 25 yn y digwyddiad, felly wrth brynu alcohol, os ydych yn edrych yn iau na 25 oed, bydd gofyn i chi ddangos cerdyn adnabod dilys i gadarnhau eich bod yn 18 oed neu’n hŷn.
Ni chaniateir i westeion ddod ag alcohol i mewn i’r safle ac mae’n rhaid gorffen unrhyw ddiodydd alcoholig a brynir ar y safle cyn gadael safle’r digwyddiad.
Mae bandiau ar gael o’n swyddfa docynnau. Os oes angen band gofalwyr arnoch, sicrhewch fod gennych brawf addas (PIP / llythyr DLA ac ati) wrth gasglu band o’r swyddfa docynnau.
Mae bandiau yn galluogi’r gofalwr i ddefnyddio’r reidiau am ddim gyda’r cwsmer sy’n talu. Dylai cwsmeriaid a’u gofalwyr asesu eu galluoedd eu hunain a gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha atyniadau y gallant eu defnyddio neu y maent yn dymuno eu defnyddio.
Er ein bod bob amser yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl, mae rhai reidiau ac atyniadau’r digywddiad yn gallu rhoi pwysau ar y corff. Felly, rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw reid neu atyniad os ydym yn teimlo’u bod yn peri risg i’ch dioglewch, neu i ddiogelwch eraill. Mae ein gweithredwyr reidiau ac aelodau o’n tîm bob amser ar gael i gynorthwyo a chynghori mewn unrhyw ffordd y gallant.
Ydyn, mae’n well gennym ddefnyddio cardiau digyswllt.
Na allwch, yn anffodus. Er mwyn sicrhau eich diogelwch a diogelwch sglefrwyr eraill, nid ydym yn caniatáu unrhyw fagiau ar y llawr sglefrio. Gallwch adael eich bag gyda rhywun sydd ddim yn sglefrio neu mae gennym ystafell gotiau lle gallwch adael eich eitemau (£2 fesul eitem) pan fyddwch yn sglefrio.
Os oes gennych fag hanfodol (offer meddygol, meddyginiaeth ac ati) y mae’n rhaid iddo fod ar gael ar bob adeg, gofynnwch i gael siarad â’r Rheolwr Dyletswydd.
Peidiwch â gadael bagiau / cotiau ac ati yn yr ardal sglefrio am y gallent gael eu cymryd oddi yno neu eu dinistrio.
Mae modd archebu fel grŵp ar-lein gan ddilyn y ddolen ‘Archebu nawr’ – bydd y system yn dangos yr argaeledd i chi ac mae’n eich galluogi i brynu cymaint o docynnau sydd eu hangen arnoch (hyd at derfyn capasiti y sesiwn honno.) Gallwch hefyd brynu tocynnau ar y ffôn drwy TicketSource 03336 663366. Yn anffodus, ni allwn gynnig gostyngiad i grwpiau.
Byddem bob amser yn argymell archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi. Nid oes swyddfa docynnau ar y safle eleni ond gallwch brynu tocynnau ar-lein ar unrhyw adeg. Gallech hefyd brynu tocynnau dros y ffôn gyda TicketSource ar 0333 666 3366.
Gellir cyfnewid tocynnau’r Llawr Sglefrio am ddyddiad arall o’r un gwerth, hyd at 48 awr cyn y sesiwn – os hoffech gyfnewid eich tocyn, cysylltwch â TicketSource yn uniongyrchol ar support@ticketsource.co.uk
Cofiwch fod gennym yr hawl i godi ffi am gyflenwid tocynnau. Mae’n rhaid gwneud cais i gyfnewid tocyn(au) dros e-bost i TicketSource. Mae gennym yr hawl i wrthod unrhyw geisiadau i gyfnewid tocyn lai na 48 awr cyn y sesiwn. Ni fydd ceisiadau a wneid i gyfnewir unrhyw docynnau o fewn 48 awr cyn y sesiwn yn cael ad-daliad na chredyd am y tocyn.
Mae gennym esgidiau sglefrio o faint 8 i blant i faint 15 i oedolion. Yn ystod sesiynau prysur, efallai y byddwn yn rhedeg allan o rhai meintiau, ond byddwn bob amser yn ymdrechu i ddarparu opsiwn addas arall i chi, ond cofiwch mai cyntaf i’r felin fydd hi o ran meintiau’r esgidiau.
Mae hefyd gennym esgidiau sglefrio â dau lafn i sglefrwyr â maint esgidiau plant 8 – 11 (mae gennym nifer cyfyngedig ar gael felly cyntaf i’r felin fydd hi.)
Na allwch yn anffodus, er mwyn eich diogelwch chi, nid ydym yn caniatáu dyfeisiau fel ffonau, camerâu, tabledi ac ati, ar yr iâ. Mae gennym dîm o ffotograffwyr proffesiynol ar y llawr sglefrio sy’n tynnu eich lluniau ac mae modd archebu amrywiaeth o luniau pan fyddwch wedi gorffen eich sesiwn. Os hoffech gael llun ar yr iâ, gofynnwch i’r ffotograffwyr iâ (maen nhw’n gwisgo cotiau gwyrdd).
Ydyn – rydym yn hygyrch i bawb, a chynhelir sesiynau sglefrio hygyrch yn ystod awr gyntaf y sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth.
Sylwch y gallai fod angen i ddefnyddwyr cadair olwyn trydan newid i’w ddefnyddio â llaw. Rydym hefyd yn cynghori bod gofalwr neu gynorthwyydd yn dod i gynorthwyo unrhyw un sy’n defnyddio cadair olwyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod eich ymweliad, gofynnwch i’r rheolwr dyletswydd.
Nid oes angen i chi wisgo gorchudd wyneb ar y safle, ond mae croeso i chi wneud hynny wrth gwrs os yw’n gwneud i chi deimlo’n fwy cyfforddus.
Ydyn – Gellir Archebu tocynnau myfyrwyr ar-lein, rydym hefyd yn cynnig Tocyn Arbed Arian i Fyfyrwyr sy’n cynnwys sesiwn sglefrio iâ, bwyd a diod. Gellir Archebu’r rhain ar-lein fel rhan o’ch tocyn sglefrio a gellir eu casglu o’r Ardal Sglefrio.
Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i ddeiliaid tocynnau myfyrwyr ddod â Cherdyn Adnabod Myfyriwr neu Gerdyn NUS gyda nhw fel prawf.
Gallwn – gellir storio’r rhain yn ein hystafell gotiau cyn belled â’u bod wedi’u plygu.
Yn anffodus, nid oes parcio pwrpasol yng Ngŵyl Gaeaf y Glannau – Mae parcio cyffredinol a hygyrch ar gael ym Meysydd Parcio Canol y Ddinas. Mae rhagor o wybodaeth am barcio yng nghanol y ddinas ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparciocanolyddinas?lang=cy
Cofiwch y bydd meysydd parcio canol y ddinas yn brysur ac mae’n bosibl bydd digwyddiadau eraill sy’n digwydd yn y ddinas yn amharu arnynt.
Oes – rydym yn cynnig Tocynnau Arbed Arian ar gyfer 2022 sy’n cynnwys sglefrio iâ, bwyd a diod. Mae’r rhaid ar gael i Fyfyrwyr (gyda Cherdyn Adnabod Myfyriwr Dilys) a theuluoedd (2 oedolyn a 2 plentyn neu 1 oedolyn a 3 plentyn).
Opsiynau Bwyd i Oedolion: Byrgyr cig eidion 8oz neu Gi Poeth Porc neu Fyrgyr llysieuol (gweinir pob un gyda sglodion traddodiadol) neu Gi Poeth Almaenig Enwog
Opsiynau diod i oedolion: Peint o gwrw, gwydraid bychan o win, neu wydraid o win poeth
Opsiynau bwyd i blant: 4 nygets cyw iâr neu selsig porc (wedi’u gweini â sglodion)
Opsiynau diod plant: Diod meddal mewn carton
Mae’r safle yn cau am 22:00. Mae’r sesiwn sglefrio olaf yn dechrau am 21:00, ac mae’r swyddfa docynnau yn cau 15 munud cyn i’r safle gau.
Oes, mae ‘na doiledau ar y safle gan gynnwys toiled dibyniaeth fawr.