Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe

Swansea Waterfront Winterland

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Gŵyl Glannau’r Gaeaf Abertawe yn ôl ar gyfer 2022!

Pethau Pwysig ar Gyfer Eich Sesiwn Sglefrio

Ni chaniateir bagiau, ffonau, clustffonau na chamerâu ar yr iâ

Mae ystafell gotiau ar gael – £2 y bag am bob sesiwn

Dim ond i sglefrwyr o dan 1.2m o daldra y mae’r Pengwiniaid ar gael

Mae esgidiau sglefrio â dau lafn ar gael i blant sydd â maint esgidiau plant 8 – 11. Nifer cyfyngedig iawn o esgidiau sglefrio â dau lafn sydd gennym felly cyntaf i’r felin.

Gellir cyfnewid tocynnau hyd at 48 awr cyn y sesiwn (efallai y codir tâl am gyfnewid tocynnau)

Mae’n rhaid i sglefrwyr fod dros 3 oed i sglefrio ar y llawr sglefrio, mae’n rhaid i unrhyw un 14 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn (18+) ar yr iâ, mae’n rhaid i oedolyn fod ar y safle ar gyfer unrhyw un 15-17 oed.

Beth i’w wneud wrth gyrraedd

Ewch i brif fynedfa’r ŵyl a dilynwch yr arwyddion i’r Llawr Sglefrio, nid oes angen tocyn arnoch i fynd i mewn i’r prif safle.

15 munud cyn bod eich sesiwn i fod i ddechrau, ewch syth at giw’r Llawr Sglefrio – gwnewch yn siŵr bod eich tocynnau’n barod i’w sganio. Nid oes angen i chi ei argraffu, gallwch ei ddangos ar eich ffôn neu dabled.

Dim ond deiliaid tocynnau fydd yn cael ciwio, gall pobl ddod i wylio neu gerdded o gwmpas y safle. Nid oes mannau gwylio ar gael o fewn y babell.

Pan fydd eich tocyn wedi’i sganio, gallwch gasglu’ch esgidiau sglefrio ac unrhyw bengwniaid o’r cownter ac yna chwiliwch am fainc i wisgo’ch esgidiau sglefrio.

Byddwch yn ymwybodol na allwch fynd ag unrhyw fagiau ar yr iâ, gadewch nhw gyda rhywun nad yw’n sglefrio neu gallwch eu gadael yn ein hystafell gotiau (£2 yr eitem). Peidiwch â gadael eitemau heb neb i ofalu amdanyn nhw yn yr ardal sglefrio nac yn yr ardal cerdded ar iâ am y gallent gael eu cymryd i ffwrdd neu eu dinistrio.

Ffitiwch eich esgidiau sglefrio ac yna pan fyddwn yn barod, byddwn yn eich galw at yr iâ. Mwynhewch!

Oedrannau Sgelfrio

Yr isafswm oedran ar gyfer sglefrio yw 3 oed neu’n hŷn – ni allwn ganiatáu i unrhyw un o dan 3 oed ar yr iâ waeth beth fo’u maint, eu taldra, neu eu gallu.

Mae tocynnau sglefrio ar gael ar gyfer sglefrwyr o 3 oed hyd at 14 oed. Mae’n rhaid i oedolyn 18 neu hŷn ddod gyda sglefrwyr 14 oed neu iau ar bob adeg. Mae grips iâ ar gael i oedolion sy’n dod gyda phlant os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwisgo esgidiau sglefrio (cofiwch mai nifer cyfyngedig o gripiau iâ sydd ar gael).

Mae’n rhaid i oedolyn (18+) fod ar y safle ar gyfer sglefrwyr rhwng 15 – 17 oed ar bob adeg – bydd hyn yn cael ei wirio pan fyddwn yn sganio’ch tocyn.

Rydym yn cynnig sesiwn hygyrch bob dydd Mawrth – mae’r sesiynau hyn yn dawelach (o ran sain) a dim ond os ydych wedi Archebu tocyn hygyrch y mae modd mynd i’r sesiynau hyn. 

PENGWINIAID

Mae nifer cyfyngedig o Bengwniaid sy’n cynnig cymorth i sglefrwyr ar gael ar gyfer pob sesiwn, mae modd archebu’r rhain ymlaen llaw ar-lein neu eu harchebu ar y diwrnod yn nesg yr ardal sglefrio. Byddwch yn ymwybodol mai cyntaf i’r felin yw hi ar gyfer y Pengwiniaid.

  • Dim ond sglefrwyr o dan 1.2M o daldra (gan wisgo esgidiau) y gall ddefnyddio’r Pengwiniaid. Mae taldra pob defnyddiwr yn cael ei wirio cyn rhoi’r Pengwiniaid – y Rheolwr sydd ar ddyletswydd sy’n cael gwneud y penderfyniad terfynol ar daldra.
  • Nid ydym yn rhoi ad-daliad ar gyfer Pengwiniaid sydd wedi’u harchebu ymlaen llaw os yw’r plentyn yn dalach na 1.2m.
  • Cost pengwin yw £5.00 y pen / y sesiwn.
  • Mae’n rhaid i’r pengwin gael ei wthio gan y defnyddiwr o’r tu ôl iddo. Rhaid i ddefnyddwyr beidio â reidio ar y Pengwiniaid nac eistedd ar y Pengwiniaid. Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn camddefnyddio’r pengwin yn colli’r pengwin hwnnw ac mae’n bosibl y gofynnir i’r person adael yr iâ.
  • Mae’n rhaid defnyddio’r Pengwiniaid yn ôl y cyfarwyddyd a nodir ar yr arwyddion diogelwch o amgylch yr iâ.
  • Ni ellir cyfnewid pengwiniaid rhwng plant na’u rhoi i unrhyw barti arall.
  • Mae’n rhaid dychwelyd unrhyw bengwniaid nad ydynt yn cael eu defnyddio / nad oes eu hangen rhagor yn ôl i’r ddesg llogi Pengwiniaid

ESGIDIAU SGLEFRIO IÂ

Mae tocyn mynediad i’r Iâ yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio. Mae gennym esgidiau sglefrio o faint plant J8 i faint oedolion 15. Yn gyffredinol, nid oes hanner meintiau (4.5 / 7.5 ac ati) ar gael. Cyntaf i’r felin yw hi gyda’r esgidiau sglefrio. Yn ystod sesiynau prysur, mae’n bosibl y byddwn yn rhedeg allan o rai meintiau – cynigir maint arall i gwsmeriaid lle bo hynny’n bosibl. Mae croeso i sglefrwyr ddod â’u hesgidiau sglefrio eu hunain, ond ni roddir unrhyw ostyngiad ar bris tocyn mynediad ar gyfer hyn.

Mae esgidiau sglefrio gyda dau lafn ar gael am ddim i blant gyda maint esgidiau hyd at faint plant 11. Mae’r esgidiau sglefrio hyn yn addas i blant sy’n cael trafferth cydbwyso ar esgidiau sglefrio ag un llafn.

Mae esgidiau sglefrio â dau lafn yn ffitio dros esgidiau’r plentyn ond mae’n rhaid i’r esgidiau fod yn esgidiau hyfforddi fflat. Ni fydd esgidiau mawr / welingtons yn ffitio yn yr esgidiau sglefrio â dau lafn. 

Sylwch fod stoc yn gyfyngedig ar gyfer esgidiau sglefrio â dau lafn felly cyntaf i’r felin yw hi. Efallai y gofynnir i chi am flaendal o £5 ar gyfer yr esgidiau sglefrio â dau lafn.

HYGYRCHEDD

Mae’r Llawr Sglefrio Iâ a’r Ardal Cerdded ar Iâ yn hygyrch i bawb! Rydym yn croesawu pob gallu ac unrhyw ofynion mynediad.

Mae’r Llawr Sglefrio Ia / Cerdded ar Iâ yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn â llaw neu rhai trydanol. Sylwch y gallai fod angen i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn trydanol newid eu gosodiadau i’w defnyddio â llaw i osgoi llithro / sgidio ar yr iâ. Siaradwch â’r Rheolwr Dyletswydd sydd ar y llawr sglefrio nos nad ydych yn siŵr cyn dechrau sglefrio ar yr iâ.

Rydym yn argymell bod cynorthwyydd personol neu ofalwr yn dod gyda phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Rydym yn cynnig mynediad am ddim i 1 cynorthwyydd personol neu ofalwr pan fyddwch yn archebu tocyn hygyrchedd. Mae’n rhaid i’r cynorthwyydd personol neu ofalwr wisgo esgidiau sglefrio iâ neu grips iâ, rydym yn argymell gafaelion iâ.

Rydym yn cynnal sesiwn hygyrchedd penodol bob dydd Mercher – mae’r sesiynau hyn yn dawelach (o ran y sain) a dim ond os oes tocyn hygyrchedd gennych y mae modd mynd i’r sesiwn hon. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy: Customerservices@a2hlive.com

TOCYNNAU MYFYRWYR

Bydd angen i holl Ddeiliaid Tocyn Myfyrwyr ddarparu cerdyn adnabod myfyriwr dilys wrth fynd i mewn i’r atyniad. Bydd methu â dangos cerdyn adnabod myfyriwr dilys (Cerdyn Adnabod y Brifysgol neu Gerdyn NUS) yn golygu y bydd angen i ddeilydd y tocyn brynu tocyn newydd ar bris llawn er mwyn cael mynediad.

BAGIAU / BAGIAU CEFN

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal archwiliad diogelwch ar unrhyw fag ar y safle.

Ni chaniateir dod â bagiau ar yr iâ. Mae ystafell gotiau ar gael lle mae modd gadael eiddio ar gost o £2 yr eitem. Gellir gadael pramiau yn yr ystafell gotiau am ddim.

Cofiwch efallai y bydd bagiau sy’n cael eu gadael yn yr Ardal Sglefrio neu o gwmpas y llawr sglefrio yn cael eu tynnu oddi yno a gellir eu dinistrio gan wasanaethau diogelwch. Peidiwch â gadael bagiau heb neb i ofalu amdanynt.

DYFEISIAU ELECTRONIG CLUDADWY

Gwaherddir defnyddio ffonau symudol, llechi, camerâu, chwaraewyr cyfryngau neu glustffonau (gwifrau neu ddiwifr) ar yr iâ yn llwyr. Gofynnir i unrhyw un sy’n defnyddio dyfais electronig / clustffonau ar yr iâ i adael yr iâ heb ad-daliad.

BETH I’W WISGO

Mae’r llawr sglefrio iâ dan orchudd ond mae’r Llwybr Iâ yn agored felly bydd angen dillad cynnes arnoch chi. Ni allwn warantu’r tywydd felly efallai y bydd angen dillad dal dŵr arnoch chi.

Bydd angen pâr o sanau arnoch chi, rydym yn argymell sanau trwchus.

Rydym yn cynghori twcio unrhyw ddillad rhydd – sgarffiau ac ati.  Gallwch chi wisgo cotiau a hwdis ond mae’n rhaid i chi gadw’r hwd i lawr – mae hyn er mwyn i chi allu gweld sglefrwyr eraill o’ch cwmpas. Os ydych chi’n gwisgo’ch hwd bydd ein staff yn gofyn ichi ei dynnu i lawr, os bydd rhaid gofyn mwy nac unwaith, efallai y gofynnir i chi adael yr iâ.

TIRWEDD

Byddwch yn ymwybodol, oherwydd natur anwastad y tir ar y safle, y gallai fod yn anodd i wylwyr symud o gwmpas yn rhwydd. Mae pob gwyliwr yn dod i mewn ar ei risg ei hun ac fe’u cynghorir i wisgo esgidiau addas.

YSMYGU – SIGARÉTS, E-SIGARÉTS a FÊPIO

Ni chaniateir ysmygu, defnyddio sigaréts, e-sigaréts na fêpio yn unman ar y safle. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr sy’n cael eu dal yn ysmygu yn cael eu hanfon i ffwrdd o’r safle.

GWYBODAETH I’R GWYLWYR

Ni chaniateir ffotograffiaeth fflach ar yr iâ nac o’i gwmpas. Gall fflachiadau dynnu sylw’r sglefrwyr neu gall achosi epilepsi a all fod yn beryglus iawn ar yr iâ.

SYLWADAU / CWYNION

Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gynnig profiad rhagorol i’n holl westeion ond weithiau mae pethau’n digwydd a all effeithio ar y profiad hwnnw. Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth wedi effeithio ar eich ymweliad, siaradwch â’r Rheolwr Dyletswydd a fydd yn gallu gweithredu ar unwaith.  Os nad ydych yn hapus â sut yr ymdriniwyd â’r sefyllfa ar y safle, gallant gyfeirio’r gŵyn am ymchwiliad pellach.

Os hoffech chi siarad â rhywun ar ôl eich ymweliad, anfonwch e-bost at CustomerServices@A2Hlive.com – Byddwch yn ymwybodol y gall fod yn anodd iawn ymchwilio a datrys sefyllfa ar ôl i chi adael y safle, felly siaradwch â’n tîm ar y safle os yw hynny’n bosibl.