Mae iechyd a diogelwch ymwelwyr ac aelodau ein tîm yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn gweithredu’r holl fesurau angenrheidiol. Disgwyliwch fwy o le ar gyfer pellhau cymdeithasol, gorsafoedd glanweithio ar gael drwyddi draw a gweithdrefnau glanhau uwch. Sylwch, os bydd angen i ni wneud unrhyw newidiadau i’r digwyddiad, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Rydyn ni’n ôl am 2021 – yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen! Rhwng 12 Tachwedd 2021 a 3 Ionawr 2022, gallwch ymuno â ni am y profiadau gaeaf gorau gyda digon o sglefrio iâ, atyniadau ffair, bwyd a diod, a hwyl Nadoligaidd ar gael i bawb!
Bydd ein cynllun newydd sbon yn rhoi profiad hollol newydd i westeion Gwledd y Gaeaf ar y Glannau- rydyn ni’n credu mai hon fydd y flwyddyn orau erioed!
Mae ein llyn iâ dan do poblogaidd yn ôl sy’n golygu y gallwch chi sglefrio, beth bynnag fo’r tywydd! Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw ac ymunwch â ni ar y rhew!
Newydd sbon ar gyfer 2021 – rydyn ni’n dod â Llwybr Iâ i Abertawe! Ewch â’ch profiad sglefrio i lefel hollol newydd – gwnewch yn siŵr na fyddwch chi’n methu hwn.