RHEOLAU AR YR IÂ
Mae sglefrwyr yn cytuno i’r canlynol:
- Rheoli’u cyflymder sglefrio drwy gydol y sesiwn;
- Sglefrio ar gyflymder sy’n rhoi ystyriaeth i gyflwr yr iâ a nifer y sglefrwyr eraill sydd ar yr iâ;
- Darllen a dilyn yr holl arwyddion a rhybuddion diogelwch;
- Dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan staff y llawr sglefrio iâ a staff yr atyniad;
- Bod yn ymwybodol o ac osgoi sglefrwyr eraill ac unrhyw offer ar yr iâ;
- Bod yn ymwybodol o lefel eu gallu ar yr iâ a sglefrio yn ôl y gallu hwnnw;
- Sglefrio mewn modd sy’n briodol i nifer y sglefrwyr eraill ac amodau’r iâ;
- Peidio â sglefrio na cheisio sglefrio dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu sylweddau eraill a allai effeithio ar eu gallu i sglefrio neu reoli’u sglefrio;
- Gadael y llawr sglefrio ar amser ar ddiwedd y sesiwn neu dan gyfarwyddyd staff;
- Peidio â mynd ar yr iâ pan fo gwaith cynnal a chadw’n cael ei gynnal arno; a
- Peidio â chymryd bwyd, diod na gwm cnoi ar yr iâ na cheisio bwyta, yfed na chnoi gwm ar yr iâ.
Mae gwylwyr yn cytuno i’r canlynol:
- Ymddwyn mewn modd priodol a pheidio â cham-drin staff, gwylwyr eraill na’r sglefrwyr yn eiriol nac yn gorfforol;
- Sicrhau nad yw eu hymddygiad yn cynyddu’r risg o anaf iddyn nhw’u hunain nac i eraill;
- Sicrhau bod y rheilen o gwmpas yr iâ yn rhydd i sglefrwyr ei defnyddio; a
- Pheidio â dringo’r rheilen na drosti nac eistedd arni.
Y PETHAU I’W GWNEUD A PHETHAU NA DDYLID EU GWNEUD AR YR IÂ
GWNEWCH:
- Gwisgwch ddillad addas ar gyfer sglefrio mewn cyfleuster awyr agored.
- Gwisgwch eich esgidiau sglefrio yn yr ardal aros gan ddefnyddio’r seddi yno.
- Gwnewch yn siŵr bod eich esgidiau sglefrio’n ffitio’n iawn cyn mynd i mewn i’r ardal sglefrio.
- Tynnwch unrhyw eitemau llac i ffwrdd neu twciwch nhw – sgarffiau, lanyardiau ac ati cyn mynd i mewn i’r ardal sglefrio.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gadael unrhyw fagiau / bagiau siopa gyda rhywun nad yw’n sglefrio neu yn yr ystafell gotiau a ddarperir.
- Cadwch draw o’r ardal sglefrio pan fydd unrhyw waith cynnal a chadw’n digwydd yno.
- Sglefriwch i gyfeiriad gwrdd-glocwedd.*
- Cadwch y sŵn i lefel dderbyniol (e.e. dim sgrechian na gweiddi).
- Rhowch wybod am unrhyw ddamweiniau i aelod o staff ar unwaith.
- Rhowch sbwriel yn y biniau a ddarperir.
- Gwrandewch a dilynwch gyfarwyddiadau’r staff.
*Byddwch yn ymwybodol: Mae’r ardal cerdded ar iâ yn gweithredu llif unffordd, gwrthglocwedd. Os bydd digwyddiad neu newid yn amodau’r iâ, efallai y bydd gofyn i chi sglefrio gan ddilyn llif clocwedd. Gwrandewch ar y cyfarwyddiadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y llif yn ôl y cyfarwyddyd.
Peidiwch â Gwneud y Canlynol:
- Peidiwch ag ysmygu na fêpio unrhyw le o fewn yr ardal sglefrio nac ar yr iâ.
- Peidiwch â mynd ar yr iâ heb wisgo esgidiau sglefrio wedi’u ffitio’n gywir na gripiau iâ.
- Peidiwch â gwisgo hwdis / cotiau gyda’r hwd i fyny.
- Peidiwch â mynd â bagiau, tabledi, chwaraewyr cerddoriaeth, clustffonau na chamerâu ar yr iâ.
- Peidiwch â defnyddio dyfeisiau symudol na chlustffonau pan fyddwch ar yr iâ.
- Peidiwch â sglefrio dan ddylanwad alcohol na sylweddau eraill.
- Peidiwch â bwyta, cnoi nac yfed ar yr iâ.
- Peidiwch â chwarae unrhyw gemau ar yr iâ, gan gynnwys tag.
- Peidiwch â gwneud unrhyw driciau ar yr iâ.
- Peidiwch â sglefrio’n gyflym na sglefrio’n rhy agos i’r cwsmer o’ch blaen.
- Peidiwch ag eistedd na dringo ar y rheilen.
- Peidiwch â sglefrio ar hyd canol yr iâ, nac yn erbyn llif y sglefrwyr eraill.
- Peidiwch â sglefrio mewn cadwyni na mewn grwpiau.
- Peidiwch â sglefrio mewn grŵp o fwy na 3 pherson yn dal dwylo.
- Peidiwch â difrodi, torri, taflu na chwistrellu’r iâ yn fwriadol.
- Peidiwch â chario plant na babanod ar yr iâ.
- Peidiwch â sglefrio am yn ôl.
- Peidiwch â sefyll yn llonydd nac ymgasglu mewn grwpiau ar yr iâ.