Telerau ac Amodau
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe 2022 – 2023 – Telerau ac Amodau
TELERAU AC AMODAU AR GYFER HOLL WERTHIANT TOCYNNAU:
- AMDANOM NI – Mae A2H Live Limited (cyfeirir ato fel “ni” ac fel “trefnydd y digwyddiad” yn y telerau a’r amodau hyn) yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 12568771 ac mae ein swyddfa gofrestredig wedi’i lleoli yn Uned 15i Ystâd Ddiwydiannol Hepworth, Pontyclun, y Deyrnas Unedig, CF729FQ.
- BWCIO – Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol wrth i chi brynu tocyn/tocynnau i’r atyniad sglefrio iâ y ceir ei fanylion ar eich archeb. Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn archebu tocynnau. Bydd ein derbyniad o’ch archeb yn digwydd pan fyddwn yn anfon e-bost atoch i’w dderbyn, ac ar yr adeg honno bydd contract yn dod i fodolaeth rhyngoch chi a ni.
- TOCYNNAU – Anfonir tocynnau i’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddarparu i ni yn eich archeb ac rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod cyfeiriad e-bost o’r fath yn gywir ac yn hygyrch. Fe’ch cynghorir i wirio’ch manylion archebu a’ch tocynnau ar ôl eu derbyn. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw docynnau sy’n cael eu colli neu eu dwyn.
- TALU – Rhaid i chi dalu pris y tocynnau a archebwyd inni wrth eu harchebu ynghyd ag unrhyw ffioedd bwcio perthnasol.
- AD-DALIAD AC AIL-WERTHU – Ar ôl eu Archebu, ni ellir ailwerthu, trosglwyddo, cyfnewid na dychwelyd tocynnau ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Os bydd amgylchiadau eithriadol, rydym yn cadw’r hawl i godi ffi am drosglwyddo neu gyfnewid tocyn/tocynnau. Ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau, ac eithrio yn unol â chymal 8. Pan gynigir ad-daliad, cyfyngir yr ad-daliad i werth y tocyn/tocynnau yn unig. Oni bai ein bod yn rhoi caniatâd penodol, ni ddylid ailwerthu na throsglwyddo tocynnau er elw neu elw masnachol.
- CYFNEWID TOCYNNAU – Gellir cyfnewid tocynnau am ddyddiad arall sydd o werth cyfatebol, hyd at 48 awr cyn y bydd y sesiwn sydd wedi’i bwcio yn digwydd. Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi am gyfnewid tocynnau. Mae’n rhaid gwneud cais i gyfnewid tocyn(au) dros e-bost i TicketSource. Mae gennym yr hawl i wrthod unrhyw geisiadau i gyfnewid tocyn lai na 48 awr cyn y sesiwn. Ni fydd ceisiadau a wneid i gyfnewid unrhyw docynnau o fewn 48 awr cyn y sesiwn yn cael ad-daliad na chredyd am y tocyn.
- SESIYNAU 2022/2023 – Mae tocynnau a brynwyd ar gyfer atyniad 2022/2023 yn rhoi mynediad i sesiwn sglefrio o 60 munud. Mae’r amser hwn yn cynnwys yr amser a gymerir i gasglu, ffitio a dychwelyd esgidiau.
- CANSLO NEU ROI’R GORAU I’R DIGWYDDIAD – Os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo, bydd gennych hawl i gael ad-daliad o bris y tocyn/tocynnau a’r ffi archebu yn unig (wrth archebu trwy TicketSource ar-lein neu trwy’r Gwasanaeth Archebu Ffôn TicketSource). Os rhoddir y gorau i’r digwyddiad neu ei gwtogi, bydd gennych hawl i gael ad-daliad o bris y tocyn/tocynnau dim ond os bydd y fath atal neu gwtogi yn digwydd ar ôl i lai na 30 munud o amser sglefrio gael ei gynnal. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw gostau teithio neu lety nac unrhyw golledion anuniongyrchol neu ganlyniadol a gafwyd o ganlyniad i’r digwyddiad yn cael ei ganslo, ei adael, ei gwtogi neu ei ohirio.
- RHAGDYBIAETH O RISG – Mae sglefrio yn gyfan gwbl ar risg y sglefriwr ei hun. Rydych yn cydnabod ac yn deall bod iâ yn arwyneb llithrig ac mae yna lawer o risgiau sy’n gynhenid i sglefrio iâ, gan gynnwys, ond heb fod wedi’i gyfyngu, i anaf personol. Os oes gennych chi, neu unrhyw aelod o’ch grŵp, gyflwr iechyd neu feddygol presennol, anaf cyfredol neu anaf sydd wedi digwydd yn y gorffennol, cyfyngiadau symudedd, yn feichiog neu’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn, dylech ystyried yn ofalus a yw’n ddiogel i chi neu aelod o’ch grŵp fod yn sglefrio iâ a dylech ystyried ymgynghori â meddyg.
- CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD –
(a) Nid oes unrhyw beth yn y telerau hyn yn cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd na ellir ei gyfyngu’n gyfreithiol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod neu dwyll neu gamliwio twyllodrus.
(b) Os na fyddwn yn cydymffurfio â’r telerau hyn, dim ond am golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef yr ydym yn gyfrifol amdano o ganlyniad rhagweladwy i’n methiant i gydymffurfio neu ein methiant i ddefnyddio gofal a sgil rhesymol.
(c) Yn amodol ar gymal 10 (a), ni fyddwn yn atebol i chi, p’un ai trwy gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, am unrhyw golli elw neu unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â’r telerau hyn.
(d) Yn amodol ar gymal 10 (a), ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled a/neu ddifrod a ddioddefwyd gennych o ganlyniad i’ch methiant i gydymffurfio â’r telerau hyn (gan gynnwys unrhyw drallod, anghyfleustra neu golli mwynhad sy’n deillio o’ch symud o’r atyniad).
(e) Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich holl eiddo personol yn cael ei gadw’n ddiogel bob amser tra ar y safle. Ni fyddwn yn atebol am eiddo coll na difrod i’ch eiddo personol oni bai mai ni sy’n achosi’r golled neu’r difrod hwnnw.
- COD YMDDYGIAD – Pan fyddwch chi ar y safle, rhaid i chi (a rhaid i chi sicrhau bod pob aelod o’ch grŵp) gydymffurfio â rheolau’r safle a rheolau ar gyfer sglefrio. Rydym yn cadw’r hawl i symud unrhyw un o’r safle y canfyddir eu bod (i) yn anufuddhau rheolau’r safle, rheolau sglefrio neu ganllawiau Covid-19; neu (ii) yr amheuir eu bod o dan ddylanwad cyffuriau a neu alcohol; neu (iii) yn ein barn resymol, yn ymddwyn mewn modd amhriodol. Os byddwn yn eich symud chi neu unrhyw un yn eich grŵp am y rhesymau hyn, ni fydd gennych hawl i unrhyw ad-daliad. Os ydych wedi Archebu tocynnau ar ran pobl eraill, rydych chi’n gyfrifol am hysbysu pobl o’r fath o’r telerau ac amodau hyn a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â hwy.
- ROAR – CADW’R HAWL MYNEDIAD – Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i chi neu unrhyw aelod o’ch grŵp: (i) am resymau iechyd a diogelwch; (a) os methwch â chydymffurfio â chwiliad diogelwch; (b) os ydych yn gweithredu’n afresymol yn ein barn resymol p’un ai o ganlyniad i fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (c) os na fyddwch yn dangos tocyn dilys ar gyfer yr atyniad ar gais; neu (ch) os methwch â chydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn, neu os ydych yn eu torri.
- CAMERÂU TELEDU CYLCH CYFYNG AR WAITH 24 AWR – Mae camerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu defnyddio ar draws y safle gan gynnwys ar yr arwyneb iâ at ddibenion iechyd a diogelwch, yswiriant a hawlio twyllodrus. Mae’r holl ddelweddau fideo a sain, o’r holl gamerâu, yn cael eu recordio, a’u cadw am o leiaf 6 blynedd.
- OEDRAN SGLEFRIO – Ni chaniateir plant dan 3 oed ar yr iâ. Rhaid i blant rhwng 3 ac 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol (dros 18 oed) ar yr iâ wrth sglefrio iâ.
- DIOGELU DATA – Byddwn yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a deddfau diogelu data cymwys. Fel rhan o’n system fwcio a rheoli cwsmeriaid, byddwn yn cadw manylion eich trafodyn ar ein cronfa ddata er mwyn darparu cofnod o’ch trafodyn ac i hwyluso’r broses o’i drin yn gywir ac unrhyw archebion yn y dyfodol. Efallai y bydd eich gwybodaeth gyswllt yn cael ei defnyddio i roi mwy o wybodaeth i chi am eich archeb. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, gweler ein Polisi Preifatrwydd yn www.a2hlive.com/privacypolicy <http://www.a2hlive.com/privacypolicy>
- b- Yn amodol ar gymal 7, ni fyddwn yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gyflawni, neu oedi wrth gyflawni, unrhyw un o’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn a achosir gan unrhyw weithred neu ddigwyddiad y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
- CYFFREDINOL –
(a) Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad arall.
(b) Mae pob un o baragraffau’r telerau hyn yn gweithredu ar wahân. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod perthnasol yn penderfynu bod unrhyw un ohonynt yn anghyfreithlon, bydd y paragraffau sy’n weddill yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn.
(c) Nid ydym ni na chi yn bwriadu y dylid gorfodi unrhyw un o’r telerau hyn, yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999 neu fel arall, gan unrhyw berson nad yw’n barti i’r contract.
- CYFRAITH LYWODRAETHOL – Bydd y telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth dros unrhyw hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn, neu’n gysylltiedig â hwy. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch chi hefyd ddwyn achos yn yr Alban.